|
Mae Camau Tirion yn feithrinfa ddydd gartrefol a hapus sy’n gwahodd hyd at 36 o blant o dri mis oed i 11 mlwydd oed. Mae'r feithrinfa hefyd yn cynnal clwb brecwast a chlwb ar ôl ysgol. Rydym wedi ein lleoli mewn lleoliad sy’n ddelfrydol gyferbyn â'r troad am yr Ysgolion cynradd Penygaer a Dewi Sant. Mae hwn yn gyfle delfrydol ar gyfer eich plentyn i wneud ffrindiau gwerthfawr cyn iddynt fynd i'r ysgol gynradd.
Nod ac amcanion
Nod y Feithrinfa yw darparu gofal plant ac addysg cyn-ysgol mewn lle diogel gan roi blaenoriaeth i anghenion datblygu a hapusrwydd y plant a'u teuluoedd.
Oriau agor
Mae'r feithrinfa ar agor 51 wythnos y flwyddyn, o 8yb - 6yp, Llun - Gwener. Rydym hefyd yn cynnig amser cyfyngedig yn unig, mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn ysgol ac yn dymuno cymryd 10 wythnos o wyliau'r flwyddyn. Am fwy o fanylion cysylltwch â ni.
|